Fe fydd teuluoedd yng ngwledydd Prydain yn gwario £3 biliwn ar y Jiwbilî a’r Gemau Olympaidd, yn ôl ymchwil newydd.

Ar gyfartaledd, mae disgwyl i bob teulu wario tua £112 ar ddathliadau 60 y frenhines a tua £208 ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, meddai’r Money Advice Service.

Roedd y corff cynghori wedi holi mwy na 2,000 o bobol ar draws gwledydd Prydain a dod i’r casgliad y bydd 40% o bobol yn gwario mwy nag arfer yr haf hwn.

Maen nhw’n rhybuddio nad yw llawer o bobol yn ymwybodol o faint eu gwario ac yn eu rhybuddio i gadw llygad ar eu harian.

Mae’r gwasanaeth, a gafodd ei sefydlu gan y Llywodraeth i helpu pobol gyda’u gwario wedi gosod dyfais ar-lein i bobol fesur costau’r haf.