Mae gan hanner pobol gwledydd Prydain feddwl gwael o’u cyrff ac mae merched mor ifanc â phump oed yn poeni am eu golwg, yn ôl adroddiad newydd gan Aelodau Seneddol.

Ar ôl cynnal ymchwiliad cyhoeddus tros gyfnod o ddeunaw mis, mae’r adroddiad yn galw am roi gwersi ar ddelwedd corff a hunan-barch i blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Maen nhw’n dweud hefyd bod eisiau codau ymddygiad newydd ym myd darlledu a thriniaeth gosmetig ac am lai o feirniadu ar dewdra mewn negeseuon cyhoeddus.

Yr ymchwil

Mae’r gwaith ymchwil gan Y Grŵp Pob Plaid ar Ddelwedd Corff a’r elusen YMCA Central yn dangos bod hanner merched ifanc a thraean bechgyn wedi bod ar ddeiet wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y ddelfryd o fod yn denau.

Yn  ôl yr adroddiad, mynd ar ddeiet sy’n gyfrifol am tua 70% o bob anhwylder bwyta ac mae cynnydd mawr wedi bod mewn gwario ar driniaeth gosmetig yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

“Mae anhapusrwydd gyda delwedd corff yn y Deyrnas Unedig yn uwch nag erioed ac mae’r pwysau i geisio cydymffurfio gyda delfryd amhosib yn creu hafog gyda hunan-barch llawer o bobol,” meddai Cadeirydd y Grŵp, Jo Swinson.