Vince Cable
Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn cael ei holi heddiw yn Ymchwiliad Leveson i’r modd roedd wedi delio â chais News Corporation i brynu BSkyB.
Cafodd ei gyfrifoldeb am y cyfryngau ei dynnu oddi wrtho yn 2010 ar ôl iddo gael ei recordio yn dweud ei fod wedi “cyhoeddi rhyfel” yn erbyn pennaeth News Corp, Rupert Murdoch.
Cafodd y cais ei drosglwyddo i ofal yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt, oedd wedi datgan ei gefnogaeth i’r cais cyn hynny.