Mitt Romney
Mitt Romney fydd yn herio Barack Obama i fod yn arlywydd yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach eleni.
Fe lwyddodd y cyn lywodraethwr 65 oed i gipio enwebiad y Blaid Weriniaethol ar ôl ennill yr etholiad mewnol yn nhalaith Texas ddoe.
Mae’r arolygon barn yn awgrymu y gallai fod yn ras agos iawn er na fydd yr enwebiad yn cael ei gadarnhau’n swyddogol tan fis Awst.
“Mae ein plaid wedi dod at ei gilydd gyda’r nod o roi methiannau’r tair blynedd a hanner diwetha’ y tu cefn i ni,” meddai Mitt Romney mewn datganiad.
Y cefndir
Dyma’r ail dro i Mitt Romney gynnig am yr enwebiad, sy’n golygu ei fod wedi bod yn ymgyrchu am y cyfle ers chwe blynedd.
Y tro yma, fe fu’n rhaid iddo guro casgliad amrywiol o ymgeiswyr ac, er bod rhai ohonyn nhw wedi cipio’r penawdau o dro i dro, Mitt Romney oedd yr ymgeisydd mwya’ cyson.
Yn ystod yr wythnosau diwetha’ mae wedi closio at Barack Obama yn y polau piniwn.