Mae penaethiaid pedair o brifysgolion Cymru ymhlith ffigurau amlwg sydd wedi sgrifennu at Brif Weinidog Prydain yn gofyn iddo godi cyfyngiadau ar fyfyrwyr tramor.
Mae’r llythyr gan 68 o arweinwyr addysg uwch yn dweud y gallai rhai prifysgolion golli rhwng £5 miliwn a £7 miliwn yr un os na fydd newid.
Eu pryder yw y bydd cyfyngiadau newydd ar fisas yn cadw myfyrwyr tramor draw – maen nhw’n honni bod ffioedd y rheiny’n cyfrannu £8 biliwn y flwyddyn at economi gwledydd Prydain.
Mae’r cyfyngiadau’n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr aros ar ôl graddio ac i wneud cyrsiau hir ar gyfer graddau pellach ac, yn ôl y penaethiaid, mae hynny’n anfon neges negyddol i bobol ifanc o wledydd eraill.
Penaethiaid o Gymru
Mae’r penaethiaid yn cynnwys Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth; Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Prifysgol Bangor; John Jeans, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd, a Barbara Wilding, Cadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd.
Eu prif alwad yw peidio â chynnwys myfyrwyr mewn ffigurau mewnfudo – nod y Llywodraeth yw gostwng nifer mewnfudwyr i wledydd Prydain o 250,000 y flwyddyn i 100,000.
Dyma un o baragraffau allweddol y llythyr: “Rydyn ni’n credu y byddai hyn yn helpu’r llywodraeth trwy greu gwahaniaeth clir rhwng mewnfudo parhaol a mewnfudo tros dro, yn helpu prifysgolion lle mae eu cymeriad rhyngwladol yn hanfodol i’w llwyddiant yn y dyfodol ac yn helpu’r Deyrnas Unedig trwy gyfrannu at dwf economaidd.”
Ateb y Llywodraeth
Fe ddywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, fod y Llywodraeth yn benderfynol o roi stop ar gamddefnydd o fisas myfyrwyr.
“Nid ymwelwyr yw myfyrwyr sy’n dod yma am fwy na blwyddyn,” meddai. “Maen nhw’n cael effaith ar gymunedau.
“Ond does dim cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr go iawn sy’n dod i’r DU a dyw ein diwygiadau ddim yn eu hatal nhw.”