Ed Miliband yn Affganistan. Llun:Stefan Rousseau/PA Wire
Mae Ed Miliband wedi rhybuddio bod llawer o waith i’w wneud er mwy sicrhau na fydd Affganistan yn llithro yn ôl i fod yn wladwriaeth sy’n methu ar ôl i filwyr Prydain, a gwledydd eraill, adael y wlad mewn dwy flynedd.

Roedd Mr Miliband, arweinydd y blaid Lafur, yn siarad yn ystod ymweliad ag Affganistan. Bu’n ymweld â milwyr sy’n gwasanaethu yn ne Helmand ac yn cynnal trafodaethau gydag Arlywydd Affganistan, Hamid Karzai.

Mae’n rhaid sicrhau cytundeb gwleidyddol yn y wlad sy’n mynd i barhau, meddai Mr Miliband. Nid oedd yn briodol i unrhyw un, yn cynnwys y rhai oedd yn gwrthwynebu’r rhyfel yn y lle cyntaf, i fod o blaid gweld y milwyr yn gadael Affganistan cyn 2014, ychwanegodd.

“Mae llawer o’n milwyr wedi gwneud aberthau enfawr, yn cynnwys yr aberth eithaf,” meddai. “Y ffordd orau y gallwn eu hanrhydeddu yw sicrhau’r cytundeb gwleidyddol rydym ei angen.”