Mae Cadfridog o Syria sydd â chysylltiad â llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad wedi dweud ei fod yn benderfynol y bydd yn dod i’r Gemau Olympaidd yn Llundain.

Cadfridog Mofwaq Joumaa yw Pennaeth Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Syria, ac mae’n awyddus i fod yn y seremoni agoriadol gyda gweddill y tîm o athletwyr a swyddogion o’r wlad – 31 o bobl i gyd.

Os na fyddai’n cael fisa, byddai’n gwneud cwyn swyddogol i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, meddai’r Cadfridog Joumaa wrth bapur newydd y Times.

Nid oedd gan y Swyddfa Dramor sylw i wneud ar achos y Cadfridog ond dywedodd llefarydd, gan gyfeirio at sylwadau Gweinidog y Swyddfa Dramor, Jeremy Browne yn y Senedd yr wythnos hon, “Bydd mynediad (i’r wlad) yn cael ei wrthod os yw presenoldeb unigolyn yn y Gemau neu yn y Deyrnas Unedig yn creu awyrgylch nad yw’n ffafriol i les y cyhoedd.”