Caeredin
Mae’r Blaid Lafur wedi cytuno i gydweithio â’r Ceidwadwyr yn o leiaf dau o gynghorau’r Alban, ac mae’r ddwy blaid yn trafod gwneud yr un peth ar gyngor y brifddinas Caeredin.

Yn ôl papur newydd y Scotsman mae’r ddwy blaid yn gobeithio cipio rheolaeth o Gaeredin gan yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae Llafur hefyd yn bwriadu clymbleidio â’r Ceidwadwyr ar gynghorau East Lothian ac Inverclyde.

Mae disgwyl y bydd Llafur hefyd yn ffurfio rhan o gyngor Aberdeen ar ôl cipio’r nifer fwyaf o seddi yno’r wythnos diwethaf.

Dywedodd y Blaid Lafur eu bod nhw hefyd yn barod i glymbleidio â’r SNP, ac eisoes wedi gwneud hynny ar gyngor East Renfrewshire.

Nid yw’n amlwg eto a fydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn clymbleidio’n ffurfiol, neu yn cynnig swyddi i rai cynghorwyr er mwyn sicrhau eu cefnogaeth.

Dywedodd y Scotsman fod pryder ymysg aelodau’r blaid yn yr Alban y gallai cytundebau â’r Ceidwadwyr danseilio’r frwydr rhwng y ddwy blaid yn San Steffan.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod gwrthwynebu’r refferendwm annibyniaeth mewn dwy flynedd yn fwy o flaenoriaeth ar hyn o bryd.