Simon Hughes
Mae dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, wedi ymosod ar Aelodau Seneddol Ceidwadol heddiw am ymddwyn fel pe baen nhw’n well na phawb arall.
Dywedodd fod rhaid i’r Ceidwadwyr gadw at eu cytundebau â’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan gynnwys diwygio Tŷ’r Arglwyddi.
Ers yr etholiad trychinebus ddydd Iau, mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi bod yn cwyno bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol ormod o ddylanwad yn y glymblaid.
Ond dywedodd Simon Hughes bod rhaid i’r Ceidwadwyr gofio eu bod nhw wedi methu a sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol a bod angen cymorth y Democratiaid Rhyddfrydol arnyn nhw.
“Rydw i’n gwybod bod y Ceidwadwyr yn ysu am ennill etholiad cyffredinol, ond ni ddigwyddodd hynny,” meddai wrth raglen The World at One Radio 4.
“Efallai ei bod hi’n anodd i’r Ceidwadwyr dderbyn hyn – gan fod ambell un yn credu eu bod nhw’n well na phawb arall – ond doedd y cyhoedd ddim yn cytuno â nhw.”
Dywedodd ei fod yn bwysig bod y ddwy blaid yn cadw at gytundebau y glymblaid, gan gynnwys creu Tŷ’r Arglwyddi sydd wedi ei ethol.
“Mae’r Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a’n plaid ni yn cytuno, fod angen corff deddfu modern arnom ni,” meddai.
Ychwanegodd mai bai’r Ceidwadwyr oedd hi fod y gyllideb yn amhoblogaidd, am eu bod nhw wedi mynnu torri treth incwm 50c y cyfoethog.
“Mae’n debyg mai’r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi mynnu ar hynny oedd wedi rhoi enw drwg i’r gyllideb,” meddai.
“Yn hytrach na neges ganolog y gyllideb bod 25 miliwn yn mynd i fod yn talu llai o dreth, roedd y cyfryngau wedi canolbwyntio ar y dreth 50c ac mae’r ddwy blaid wedi talu’r pris am hynny.”