Mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Almaen wedi pwysleisio bod rhaid i Wlad Groeg gadw at amodau eu benthyciadau.

Daw’r rhybudd wedi cynnydd mawr mewn cefnogaeth i bleidiau sy’n gwrthwynebu amodau llym yr Undeb Ewropeaidd a’r IMF yn yr etholiad ddoe.

Enillodd y ddwy brif blaid oedd yn cefnogi cadw at amodau’r benthyciadau, Pasok a New Democracy, lai na thraean y bleidlais.

Mae hynny’n golygu y bydd rhaid iddyn nhw ddenu plaid arall i glymbleidio â nhw, neu wynebu clymblaid o bleidiau sy’n gwrthwynebu’r amodau.

Dywedodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, bod diwygiadau Gwlad Groeg “yn hynod o bwysig”.

Mae yna ofnau y bydd llywodraeth newydd Gwlad Groeg yn penderfynu peidio talu’r ddyled yn ôl a gadael yr ewro.

Fe allai hynny arwain at argyfwng bancio arall a dechrau’r diwedd i barth yr ewro.

Syrthiodd y brif gyfnewidfa stoc yn Athens 8% ar ôl methiant y prif bleidiau i ennill digon o bleidleisiau er mwyn ffurfio llywodraeth.

Gwelodd y blaid fwyaf yn yr etholiad diwethaf, Pasok, ei siâr o’r bleidlais yn syrthio o 43% i 13%.

Syrthiodd pleidlais y blaid geidwadol, New Democracy, o 33.45% i 18.9%.

Symudodd y blaid adain chwith radicalaidd Syriza i’r ail safle gan addo gwrthwynebu amodau benthyciadau Gwlad Groeg.

Mae canlyniadau llawn yr etholiad i’w gweld fan hyn.