Mae tri pherson wedi eu hachub ar ôl i’w cwch dorri i lawr ar fôr stormus ger arfordir Sir Benfro.
Roedden nhw wedi galw am gymorth am 5am y bore ma ar ôl i’w hwylbren nhw dorri. Methodd yr injan pum milltir i’r gorllewin o Ynys Dewi.
Teithiodd bad achub o Dŷ Ddewi a chludo’r cwch yn ôl i Abergwaun.
Roedd dau ddyn 41 a 49 a merch 15 oed o Maryport, Cumbria, ar y cwch.
Y gred yw eu bod nhw newydd brynu’r cwch 30 troedfedd, Kent Venture, a’u bod nhw’n gobeithio ei hwylio o Aberdaugleddau yn ôl i Workington, Cumbria.
Dywedodd llefarydd ar ran y bad achub bod y tywydd yn wael a’u bod nhw wedi cael trafferth dod o hyd i’r cwch.
Roedd criw ambiwlans yn disgwyl amdanyn nhw ond doedd ddim angen triniaeth.
Fe fydd y llong yn cael ei drwsio yn harbwr Abergwaun cyn parhau ar ei daith.