De Sudan yn dathlu annibyniaeth
Mae Arlywydd Sudan wedi dweud na fydd y brwydro â De Sudan yn effeithio ar y perthynas clos rhwng pobol y ddwy wlad.
Daw sylwadau Omar al-Bashir ddyddiau wedi i’w lywodraeth dderbyn cynllun Undeb Affrica i barhau i drafod â De Sudan.
Dyddiau ynghynt roedd brwydro ar y ffin mewn perygl o ddatblygu yn rhyfel rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd byddin De Sudan bod Khartoum yn parhau i fomio’r ffin er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi cytuno i’r cynllun.
Enillodd De Sudan annibyniaeth rhag Sudan y llynedd, ond dyw’r ddwy wlad heb gytuno ar y ffin na chwaith sut fyddwn nhw’n rhannu elw’r olew.
Ond dywedodd Omar al-Bashir na fydd y cweryla yn chwalu’r cysylltiadau “dwfn” sydd gan bobol y gogledd a phobol y de.