Fe ddylai’r diwydiannau adeiladu, bancio a chyfrifiaduron dalu gwell cyflog i’w gweithwyr yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Cymru ymysg y rhanbarthau lle mae’r canran lleiaf o bobol yn derbyn ‘cyflog byw’ – sef £7.20 yr awr – yn ôl melinau trafod The Resolution Foundation ac IPPR.

Gogledd Ddwyrain Lloegr, Swydd Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr yw’r rhanbarthau eraill lle mae nifer y gweithwyr sy’n cael cyflog byw yn isel, medden nhw.

Yn ôl yr adroddiad mae traen y gweithwyr benywaidd ac un ym mhob pump o’r gweithwyr gwrywaidd yn y Deyrnas Unedig, sef chwe miliwn o bobol, yn ennill llai na’r cyflog byw.

Dywedodd The Resolution Foundation ac IPPR y byddai cwmnïoedd mawr mewn sawl sector yn yr economi yn wynebu cynnydd o 1% neu lai yn eu costau cyflogi pe baen nhw’n talu cyflog byw.

Roedd mwy na 600,000 o bobol yn ennill llai na’r cyflog byw yn sectorau bancio, cyllid, yswiriant ac eiddo diriaethol, 600,000 arall yn y diwydiant cynhyrchu, 260,000 yn y diwydiant trafnidiaeth a chyfrifiaduron, a 180,000 yn y diwydiant adeiladu.

Dylid herio’r cwmni i esbonio pam nad oedden nhw’n gallu talu cyflog byw i’w gweithwyr, meddai’r adroddiad.

“Ychydig iawn o gwmnïoedd sydd wedi addo talu cyflog byw i’w gweithwyr,” meddai Gavin Kelly, prif weithredwr Resolution Foundation.

“Does yna ddim achos busnes amlwg i beidio talu cyflog byw yn y sectorau yma. Mae talu gweithwyr o leiaf £7.20 yr awr, a £8.20 yn Llundain, yn fforddiadwy ac yn foesegol.”