Mae Llywodraeth San Steffan wedi taro’n ôl yn erbyn beirniaid ynni gwynt, gan gyhoeddi adroddiad sy’n dweud bod y diwydiant wedi creu miloedd o swyddi a miliynau i’r economi.
Roedd archwiliad i 18 fferm wynt ledled Ynysoedd Prydain a gomisiynwyd gan yr Adran Egni a Newid Hinsawdd yn dangos bod cymunedau wedi elwa yn sylweddol ar y tyrbinau.
Yn ôl yr ymchwil gan gwmni BiGGAR Economics roedd ffermydd gwynt wedi creu 8,600 o swyddi parhaol, a buddsoddi £548 miliwn yn yr economi yn 2011.
Yn yr ardaloedd yr oedd yr arolwg wedi edrych arnyn nhw roedd un ym mhob tri o’r swyddi lleol yn ymwneud â chynnal a chadw’r tyrbinau, meddai’r adroddiad.
Roedd adeiladwyr y tyrbinau hefyd fel arfer wedi buddsoddi mewn isadeiledd yn yr ardal, a oedd o fudd i’r gymuned leol.
Fis diwethaf dywedodd David Cameron bod ynni adnewyddadwy yn “hanfodol” i ddyfodol y Deyrnas Unedig ac yn gwneud lles i fyd busnes yn ogystal â’r amgylchedd.
Daw hynny er bod 100 o ASau Ceidwadol wedi ysgrifennu ato yn galw am dorri cymorthdaliadau i’r dechnoleg.
Roedd pob tyrbin gwynt yn creu £1.4m i’r economi, gan gynnwys £200,000 ar gyfer yr ardal leol, medden nhw.
“Ynni gwynt yw’r modd lleiaf costus o greu ynni adnewyddadwy ar y tir mawr,” meddai’r Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey.
“Nid yn unig y mae’n darparu ynni carbon isel ar gyfer cartrefi a busnesau, mae hefyd yn cynnal swyddi ac yn buddsoddi mewn cymunedau ym mhob cwr o’r wlad.
“Mae cost y dechnoleg yn syrthio, felly mae yna gyfle go iawn i gymryd mantais o fudd economaidd ynni gwynt.”
Mae yna bellach 3,176 o dyrbinau gwynt ar y tir yn y Deyrnas Unedig, a 568 yn y môr.