Mae Vladimir Putin wedi ei urddo yn Arlywydd Rwsia am y trydydd tro, ar ôl cyfnod o bedair blynedd yn Brif Weinidog.
Cafodd Vladimir Putin ei ethol yn arlywydd am y tro cyntaf yn 2000, ac fe fydd ei dymor chwe blynedd newydd yn ei gadw wrth y llyw nes 2018.
Urddwyd Putin diwrnod wedi i brotest gan ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r gwleidydd ddenu 20,000 o bobol.
Roedd diwedd treisgar i’r orymdaith wrth i nifer o’r ymgyrchwyr geisio cyrraedd y Kremlin.
Gyrrwyd nhw yn ôl gan heddlu arfog a arestiodd dros 400 o bobol.