Mae Llywodraeth Israel wedi cynnig symud yr etholiad cyffredinol ymlaen i 4 Medi.
Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu, yn fuddugol unwaith eto ar ddiwedd yr ymgyrch fer.
Bydd y Senedd yn dechrau ar y broses o ddiddymu’r senedd heddiw, a mae disgwyl pleidlais derfynol ar y mater yfory.
Mae’r Llywodraeth bresennol ymysg y mwyaf sefydlog yn y wlad ers blynyddoedd.
Ond mae anghytundebau ynglŷn â sawl pwnc llosg gan gynnwys sut i fynd i’r afael â Phalestina ac Iran wedi symbylu’r Prif Weinidog i ofyn am fandad newydd.
Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu y bydd ei blaid, Likud, yn ennill o leiaf chwarter y 120 sedd yn y senedd.
Fe fyddai ganddo gyfle wedyn i ffurfio clymblaid fwy cymedrol, yn hytrach na’r glymblaid adain-dde y mae yn ei arwain ar hyn o bryd, sy’n amharod i gymodi â Phalestina.
Mae’r etholiad cynnar hefyd wedi arwain at ddyfalu y gallai Israel ymosod ar raglen niwclear Iran, efallai o fewn misoedd.