Mae marchnadoedd stoc wedi plymio heddiw yn dilyn pryderon ynglŷn â gallu Ewrop i fynd i’r afael â’r argyfwng dyled.

Daw’r pryderon yn sgil canlyniadau etholiadau yng Ngwlad Groeg a Ffrainc a welodd fuddugoliaethau i ymgeiswyr a oedd yn gwrthwynebu mesurau llym i dorri dyledion.

Syrthiodd y brif gyfnewidfa stoc yn Athens 8% ar ôl methiant y prif bleidiau i ennill digon o bleidleisiau er mwyn ffurfio llywodraeth.

Gwelodd y blaid fwyaf yn yr etholiad diwethaf, Pasok, ei siâr o’r bleidlais yn syrthio o 43% i 13%.

Mae’n bosib y bydd rhaid cynnal etholiad cyffredinol arall o fewn deufis os nad yw’r pleidiau yn gallu dod i gytundeb a ffurfio llywodraeth.

“Roedd etholiadau Gwlad Groeg wedi arwain at ansicrwydd llwyr. Does neb mewn rheolaeth,” meddai Gary Jenkins, rheolwr gyfarwyddwr Swordfish Research.

Y blaid geidwadol New Democracy sydd ar y blaen ar hyn o bryd â 108 o’r 300 sedd a 18.9% o’r bleidlais.

Mae disgwyl i arweinydd y blaid, Antonis Samaras, sy’n cefnogi ymdrechion y wlad i dalu ei dyledion, ddechrau trafod clymbleidio yn hwyrach ymlaen heddiw.

Daeth mwy o ansicrwydd yn sgil ethol Francois Hollande yn arlywydd Ffrainc. Mae ymgeisydd y blaid sosialaidd wedi dweud bod angen rhagor o bwyslais ar dwf yn yr economi a llai ar doriadau llym.

Roedd Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, hefyd wedi dioddef ergyd mewn etholiad rhanbarthol yn nhalaith ogleddol Schleswig-Holstein ddoe.

“Mae’r grasfa etholiadol i’r Arlywydd Sarkozy, y prif bleidiau yng Ngwlad Groeg a phlaid Angela Merkel yn dangos yn glir nad yw pleidleiswyr yn cefnogi’r toriadau llym,” meddai Neil MacKinnon, strategydd rhyngwladol VTB Capital.