Vince Cable
Mae angen “strategaeth ddiwydiannol” ar y llywodraeth er mwyn hybu twf economaidd, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, heddiw.
Dywedodd y dylai gweinidogion dreulio rhagor o amser yn hybu twf economaidd, wrth sicrhau fod materion arall megis ailwampio Tŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyflawni “yn gyflym ac yn ddiffwdan”.
Roedd yn rhaid i’r Llywodraeth wneud “llawer iawn mwy” er mwyn cefnogi diwydiannau “llwyddiannus” y wlad, meddai.
“Mae angen strategaeth ddiwydiannol arnom ni, fydd yn cefnogi ein diwydiannau allweddol, llwyddiannus,” meddai.
“Ynghanol yr holl newyddian drwg economaidd mae gennym ni gwmnïau mawr – fel Nissan, a Jaguar Land Rover, sy’n buddsoddi cannoedd o filiynau yn y wlad ac yn creu swyddi.
“Mae angen llawer iawn mwy er mwyn cefnogi ein diwydiannau allweddol a sicrhau bod yr economi yn tyfu.”
Ymatebodd hefyd i honiad rhai ASau Ceidwadol na ddylai’r Llywodraeth fod yn bwrw ymlaen wrth ailwampio Tŷ’r Arglwyddi, er mwyn gallu canolbwyntio ar yr economi.
“Dydw i ddim yn deall y cyffro sydd ynghlwm â newid Tŷ’r Arglwyddi. Rydw i wedi bod yn San Steffan ers 15 mlynedd. Mae’r peth wedi ei drafod yn drylwyr ac mae bron i bawb yn cytuno ynglŷn â beth sydd angen ei wneud,” meddai.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi addo ailwampio Tŷ’r Arglwyddi ers tri etholiad cyffredinol yn olynol. Mae angen ei wneud yn gyflym a diffwdan fel ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar y materion economaidd y mae pawb yn pryderu amdanyn nhw.
“Mae pawb yn cytuno nad yw’n briodol cael ail siambr sy’n llawn pobol sy’n cael eu penodi gan y llywodraeth ar seiliau gwleidyddol.
“Does yna ddim rheswm pam y dylai gymryd llawer iawn o amser, gan fod y prif bleidiau i gyd yn cytuno ar beth sydd angen ei wneud.”