Fflag Ynysoedd y Falklands
Mae llysgennad yr Ariannin yn Llundain wedi rhybuddio y gallai cysylltiadau economaidd Prydain â De America ddioddef os nad ydyn nhw’n rhoi’r gorau i hawlio Ynysoedd y Falklands.

Mynnodd y byddai Las Malvinas yn elwa’n economaidd pe baen nhw’n torri pob cysylltiad â Phrydain.

Dywedodd y byddai ei llywodraeth yn anfon athrawon Sbaeneg i’r ynys ac yn sefydlu gwasanaeth awyr rhwng yr ynys a thir mawr yr Ariannin.

Ychwanegodd nad oedd yr Ariannin “eisiau newid ffordd o fyw’r bobol ar yr ynys”, ond mynnodd y dylen nhw gael eu rhoi yn ôl “i America Ladin yn ei gyfanrwydd”.

“Dyw hyn ddim yn fater i’r Ariannin yn unig, ond i’r rhanbarth cyfan. Drwy fynnu peidio trafod â’r Ariannin, mae Prydain yn troi ei gefn ar dde America gyfan.

“Os ydi Prydain eisiau gwella ei pherthynas ag America Ladin, mae angen i’r Llywodraeth ddatrys y ddadl yma.”