Lembit Öpik
Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Lembit Öpik, wedi dweud y dylai Nick Clegg roi’r gorau i arwain y blaid.
Fe ddylai Nick Clegg ganolbwyntio ar fod yn ddirprwy brif weinidog gan adael i rywun arall gymryd yr awenau yn arweinydd y blaid, meddai Lembit Öpik.
Daw ei sylwadau wedi canlyniad trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a gweddill Prydain yn yr etholiadau lleol ddydd Iau.
Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol 66 sedd yng Nghymru, a 330 ar draws Prydain.
Dywedodd cyn-Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn wrth raglen Sunday Supplement na fyddai’r “blaid yn gallu dod ato’i hun tra bod yr un person yn gwneud y ddwy swydd”.
“Mae Clegg yn gwneud gwaith da iawn yn y llywodraeth, ond nid yw’n gwneud gwaith da yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae’n amhosib gwneud y ddwy swydd llawn amser yr un pryd. Rydw i’n credu y dylai barhau yn swydd y dirprwy brif weinidog, ond dydw i ddim yn credu y dylai barhau yn arweinydd y blaid.”