John Bercow
Mae llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi dweud bod rhagor o ASau wedi gwneud cais am gymorth i oresgyn alcoholiaeth.

Mae Senedd San Steffan wedi mynd ati er mwyn ceisio dod a’r diwylliant yfed yno i ben.

Daw hyn yn sgil brwydr yn Strangers Bar Tŷ’r Cyffredin, pan ymosododd yr Aelod Seneddol Eric Joyce ar ASau eraill.

Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf bod gweithwyr yn Nhŷ’r Cyffredin wedi derbyn cyfarwyddiadau i beidio llenwi gwydrau ASau mor aml mewn derbyniadau.

Y nod oedd “annog defnydd alcohol cyfrifol”.

Awgrymodd John Bercow bod rhai ASau hefyd yn mynd i’r afael â “dibyniaethau eraill”, ond bod Tŷ’r Cyffredin yn adlewyrchu’r gymdeithas ehangach yn hynny o beth.

Dywedodd nad yw alcohol sy’n cael ei werthu yn Nhŷ’r Cyffredin bellach yn rhatach nag alcohol mewn tafarn gyffredin.

“Rydw i’n meddwl fod problem sy’n ymwneud ag aelodau sydd wedi cael gormod i’w yfed,” meddai.

“Rydw i’n credu ei fod yn bwysig fod y gwasanaeth meddygol yn y Tŷ yn ymwybodol o aelodau sy’n dioddef o broblemau.

“Mae yna bellach dystiolaeth bod rhagor o aelodau a staff sy’n dioddef o broblemau yn ymwneud ag alcohol yn cael cymorth, ac mae hynny’n beth da.

“Rydyn ni’n adlewyrchu cymdeithas ac mae yna bobol ym mhob math o swyddi sydd â phroblemau yn ymwneud ag alcohol.”

Wrth gyfeirio at yr etholiadau lleol, dywedodd fod pobol yn teimlo nad oedd y prif bleidiau yn adlewyrchu eu dyheadau.

Ychwanegodd fod y pleidiau yn “debyg iawn” ac nad oedd yna “lawer o ddewis”.