David Cameron o dan y lach
Mae ffigwr amlwg yn yr Eglwys yn yr Alban wedi beirniadu David Cameron yn hallt.

Dywedodd y Cardinal Keith O’Brien, arweinydd y Pabyddion yn yr Alban, fod Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi ymddwyn yn anfoesol drwy ffafrio’r cyfoethog yn hytrach na phobl gyffredin sy’n cael eu taro gan y dirwasgiad.

Dywedodd ei bod hi’n  anfoesol i anwybyddu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau ariannol diweddar.

“Fy neges i i David Cameron, fel pennaeth ein llywodraeth, ydi i ailfeddwl yn ddifrifol ynglŷn â’r dreth Robin Hood, treth i gynorthwyo’r tlawd trwy gymryd dipyn o’r cyfoethog,” meddai gan gyfeirio at y sôn a fu i drethu sefydliadau ariannol.

Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthwynebu cyflwyno treth o’r math hwn gan ddadlau y byddai’n achosi colli swyddi a buddsoddiad i wledydd eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing fod y Prif Weinidog yn benderfynol i gynorthwyo pobl sy’n dioddef trafferthion ariannol.