Mae heddlu Llundain yn holi gŵr 48 oed ar ôl gwarchae ynghanol y ddinas ddoe wedi iddo gerdded i mewn i adeilad yn Tottenham Court Road yn gwisgo gwregys efo caniau nwy, a dal pedwar dyn yn wystlon yno.

Fe gerddodd y gŵr, sydd wedi ei enwi’n lleol fel Michael Green, i mewn i adeilad Advantage Training Services a bygwth ffrwydro’r caniau.

Dywedodd Abby Baafi, pennaeth hyfforddiant a gweithrediadau y cwmni ei fod wedi gofyn am ei arian yn ôl ar ol methu prawf HGV.

“Roedd o yn chwilio amdana’i yn benodol ond mi ddywedais i wrtho fo na dim Abby oedd fy enw i ac fe wnaeth o adael i mi fynd,” meddai.

Caewyd strydoedd cyfagos ac fe wagiwyd adeiladau wrth i’r heddlu a gwasanaethau brys ruthro i’r ardal.

Taflwyd cyfrifiaduron a dodrefn swyddfa allan trwy’r ffenestri cyn i’r gŵr gael ei ddal gan yr heddlu wnaeth chwilio’r adeilad wedyn rhag ofn bod ffrwydron ar ôl yno.