Y Trysorlys
Mae benthyciadau’r Llywodraeth wedi gostwng bron i £11 biliwn dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er gwaetha cynydd annisgwyl yn y ffigurau ar gyfer mis Mawrth.

Roedd benthyciadau ar gyfer y mis yn £18.2 biliwn, ffigwr uwch na’r £16 biliwn roedd y Ddinas wedi ei ddarogan, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Serch hynny fe lwyddodd y Llywodraeth i gyrraedd ei tharged o £126 biliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth, gostyngiad o £136.8 biliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Daw’r gostyngiad mewn benthyciadau o ganlyniad i gynydd mewn trethi, gan gynnwys cynnydd o 17.5% i 20% mewn Treth ar Werth a thoriadau yng ngwariant y Llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’r ystadegau heddiw yn dangos bod cynllun y Llywodraeth i ostwng y diffyg cyllidebol yn gweithio.”

Ond mae na rybudd y bydd y Llywodraeth yn ei chael yn anodd cadw at y cynllun wrth i ddiweithdra gynyddu a’r economi barhau’n fregus.