Tom Jones
Mae’r Cymro byd-enwog, Tom Jones, wedi cyfaddef ei fod yn difaru treulio gymaint o flynyddoedd yn ceisio cuddio’i wallt llwyd.
Synnwyd rhai o ddilynwyr ffyddlonaf y canwr 71 oed dair blynedd yn ôl, pan roddodd y gorau i liwio’u locsyn cyrliog.
Dywedodd wrth gylchgrawn y Radio Times nad oedd hi “fyny i fi ddweud wrth eraill beth i’w wneud. Ond gallwch chi ddim cyrraedd oed arbennig a dal i gael gwallt du. Os oes rhai yn medru, wel bendith arnyn nhw.”
Cyfaddefodd y canwr o Drefforest y byddai’n cymryd “deufis o hoe bob Nadolig a byth yn lliwio ’ngwallt. A phob tro fydden i’n dechrau taith newydd, fydden i’n edrych ac yn meddwl, ‘Dyw e ddim yn ddigon gwyn eto,’ a byddwn i’n ei liwio eto.
“Mae’n rhaid ei fod e’n edrych yn eitha’ amlwg. Dylwn i wedi gadael i bethau fynd pum mlynedd ynghynt,” meddai.
‘Mynd yn hŷn yn grêt’
“Mae mynd yn hŷn yn grêt. Dwi’n edrych ymlaen at benblwyddi,” meddai wedyn.
“Mae’n drist iawn os y’ch chi’n dechrau cwyno nad yw hi fel oedd hi ‘yn yr hen ddyddiau,’ o hyd,” meddai.
“Dwi’n nabod pobol ym myd adloniant sy’n gwneud hynny, ac yn honni nad yw’r gerddoriaeth cystal. Rwtsh!”
Er cyfaddef ei bod hi’n bryd iddo roi’r gorau i’w ymddangosiad blynyddol yn canu yn Las Vegas y llynedd, dywedodd ei fod yn dal yn ffyddiog yn ei lais.
“Mae fy llais i mor gryf ag erioed. Ond gobeithio, pan na fydd e cystal, fe fydda i yn rhoi’r gorau iddi. Gall hynny byth a bod yn rhy bell i ffwrdd nawr, ond dwi’n gobeithio nad yw e’n rhy agos,” meddai.