Keeley Hawes ac Ed Stoppard fu'n actio yn y gyfres Upstairs Downstairs
Mae’r BBC wedi cyhoeddi na fydd yn comisiynu cyfres arall o Upstairs Downstairs ar ôl i nifer y gwylwyr ostwng yn sylweddol.

Roedd y gyfres yn cael ei chynhyrchu ar y cyd ag  adran ddrama BBC Cymru ac roedd y gorfforaeth wedi gobeithio y byddai’n efelychu llwyddiant Downton Abbey ar ITV.

Ond mae’r BBC wedi penderfynu na fydd na drydedd gyfres ar ôl i nifer y gwylwyr ostwng o 8.8 miliwn ar gyfer y bennod gyntaf i 5.22 miliwn ar gyfer rhaglen ola’r gyfres ddiwethaf.

Mae ffans y gyfres eisoes wedi dechrau ymgyrch ar-lein i geisio cael y BBC i ail-ystyried ac mae nifer o’r rhai fu’n gysylltiedig â’r gyfres wedi bod yn Trydar yn sôn am eu siom bod y gyfres wedi dod i ben.

Cafodd Upstairs Downstairs ei darlledu gyntaf yn y 70au ar ITV.