Vince Cable
Mae undeb yn honni bod yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi dweud ei fod “yn erbyn” cyflwyno tâl rhanbarthol.

Mae disgwyl i’r Trysorlys gyhoeddi adroddiad yn fuan a fydd yn ystyried amrywio tâl gweithwyr y sector gyhoeddus yn ôl cyflogau cyfartalog y rhanbarth y maen nhw’n gweithio yno.

Mae yna bryder mawr am yr effaith y byddai tâl rhanbarthol yn ei gael ar economi Cymru, lle mae canran uchel o’r boblogaeth yn gweithio yn y sector gyhoeddus, ond lle y mae cyflogau yn y sector breifat yn llawer is ar gyfartaledd.

Mae gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn cael eu talu 18% yn fwy ar gyfartaledd yng Nghymru. Ond cred Llywodraeth San Steffan yw y byddai tâl rhanbarthol yn rhoi hwb i’r sector breifat.

Mae’n debyg bod Vince Cable wedi dweud ei fod yn erbyn cyflwyno tâl rhanbarthol wrth gwrdd ag ymgyrchwyr o undeb y PCS yn ei etholaeth yn Twickenham.

“Cytunodd Cable i gwrdd gyda ni, a dweud ei fod yn gwrthwynebu cyflwyno tâl rhanbarthol,” meddai Keith Johnston o’r undeb.

“Dydw i ddim yn gwybod faint o ddylanwad sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, ond roedd wedi llwyddo i godi ein calonnau ni.”

Daw sylwadau honedig Vince Cable wedi iddo addo wrth ymweld â Chymru na fyddai’r Llywodraeth yn “gorfodi” tâl is ar weithwyr yn y sector gyhoeddus.

Wrth siarad â gweithwyr yng Nghaerdydd ddechrau’r mis dywedodd nad oedd yna “unrhyw un yn credu y dylai’r llywodraeth yn ganolog orfodi tal isel ar y sector gyhoeddus yng Nghymru”.