Gareth Williams
Mae perthnasau ysbïwr M16 o ogledd Cymru yn gobeithio cael gwybod a gafodd ei ladd fel rhan o ymgais gan y gwasanaethau cudd i gelu gwybodaeth.

Bydd crwner yn clywed gan yr heddlu, cyd-weithwyr, a chyfeillion Gareth Williams wrth i’w gwest geisio datrys y dirgelwch 21 mis.

Mae’r teulu yn ofni bod “rhyw asiantaeth sy’n arbenigo yng nghrefftau’r gwasanaethau cudd” yn gyfrifol ac y bydd hynny’n golygu na fyddwn nhw’n cael gwybod sut y bu farw.

Dyw Scotland Yard heb benderfynu a fu Gareth Williams farw o ganlyniad i ymyrraeth trydydd parti.

Mae ei berthnasau yn credu bod rhywun naill ai yn bresennol yn ei fflat pan fu farw neu wedi torri i mewn yn ddiweddarach er mwyn dinistrio tystiolaeth.

Bydd y Crwner Fiona Wilcox yn clywed tystiolaeth gan tua 30 o lygaid dystion dros gyfnod o bum diwrnod.

Y cwestiwn canolog yw a lwyddodd Gareth Williams, 31 oed, i’w gloi ei hun i mewn i’r bag y darganfuwyd ei gorff ynddo, meddai.

Daethpwyd o hyd i’w gorff noeth yn pydru yn y bag mewn bath yn ei gartref yn Pimlico, ynghanol Llundain, ym mis Awst 2010.

Roedd y bag North Face wedi ei gau o’r tu allan â chlo chlap.

Methodd cyfres o archwiliadau post mortem ddarganfod sut yn union y bu farw.

Dywedodd cyfreithiwr y teulu o Ynys Môn, Anthony O’Toole, bod yn rhaid i’r cwest ddarganfod pam nad oedd yna unrhyw dystiolaeth fod rhywun arall wedi bod yn ei fflat.

“Yr argraff sydd gan y teulu yw bod tystiolaeth wedi ei ddileu wedi’r farwolaeth gan arbenigwr yng nghrefftau’r gwasanaethau cudd,” meddai wrth siarad mewn gwrandawiad cyn y cwest.

Mynnodd y cyfreithiwr bod angen “cael gwybod beth oedd gwaith” Gareth er mwyn cael “ymchwilio’n iawn i amgylchiadau ei farwolaeth”.