Mae cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymddiheuro ar ôl methu a chasglu sbwriel yn dilyn anghydfod â gweithwyr.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi diddymu hawl y casglwyr sbwriel i droi am adref ar ôl casglu’r olaf o’r bagiau sbwriel.

Does dim streic swyddogol ond mae rhywfaint o’r sbwriel wedi ei adael ar ochor y ffyrdd. Roedd rhai pobol wedi cwyno nad oedd eu sbwriel wedi ei gasglu, meddai’r cyngor.

Dywedodd y cyngor nad oedd caniatáu i gasglwyr sbwriel fynd adref ar ôl gorffen eu gwaith yn deg ar weithwyr eraill oedd yn gorfod gweithio eu horiau llawn.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw’n gobeithio sicrhau y bydd yr holl sbwriel yn cael ei gasglu yr wythnos nesaf.

‘Cyflogau unffurf’

“Mae’r Cyngor Sir am ymddiheuro i’r preswylwyr mewn rhai rhannau o’r sir sydd wedi cael problemau yn ymwneud â chasglu sbwriel yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Mark James.

“Mae’r Cyngor wedi cytuno ar delerau ac amodau newydd gyda’i holl weithwyr, ac yn sgil hynny mae system gyflogau unffurf wedi cael ei rhoi ar waith. Mae’r system hon wedi cael gwared â rhai o’r cynlluniau bonws annheg a hen iawn yr oedd rhai gweithwyr yn elwa arnynt.

“Yn ogystal, fel rhan o’r gwaith o resymoli telerau ac amodau, rydym wedi cael gwared â’r arferion gweithio “cyflawni gwaith a gorffen” lle roedd casglwyr sbwriel yn gallu gadael gwaith cyn gynted ag yr oeddent wedi gorffen casglu’r sbwriel, hyd yn oed petai hynny’n golygu gadael ddwy neu dair awr yn gynharach bob dydd. Y grŵp hwn o staff oedd yr unig rai oedd yn cael gwneud hyn.

“Mae’r trefniadau gweithio newydd sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn golygu na allwn ailgyflwyno’r arferion gweithio “cyflawni gwaith a gorffen” gan y byddai hynny’n annheg i bob aelod arall o staff sy’n gweithio oriau llawn eu contract bob wythnos.

“Er ein bod yn gobeithio datrys y mater hwn yn fuan drwy barhau i ymgynghori â’r casglwyr sbwriel, ni fydd y Cyngor Sir yn gadael y sefyllfa fel y mae a bydd yn ystyried pob ffordd bosibl er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn dal i gael ei ddarparu.

“Unwaith eto, ar ran y Cyngor, hoffwn ymddiheuro i’r preswylwyr y mae’r sefyllfa hon yn effeithio arnynt.”