Mae dynes yn ei 30au wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Neiniolen.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4244 ger Llanberis brynhawn ma, am 1.20pm. Mae’n debyg bod Land Rover wedi taro car arall.
Fe fu’r ddynes farw yn y fan a’r lle.
Aethpwyd a dau berson arall oedd wedi eu hanafu i’r ysbyty, ond nid yw’r anafiadau yn rhai marwol. Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dorri un person allan o’i gerbyd.
Roedd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub o Gaernarfon a Llanberis wedi ymateb i’r alwad.
Dylai unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd ffonio’r heddlu ar 101.