Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr cyntaf prifysgol newydd sydd wedi ei sefydlu gan griw o academics amlwg, yn dod o gefndir ysgol breifat.

Dim ond 20% o fyfyrwyr y New College of the Humanities (NCH) fydd wedi derbyn eu haddysg mewn ysgolion cyffredin pan ddaw’r brifysgol newydd i fodolaeth yn yr Hydref.

Mae’r brêns tu ôl i’r sefydliad newydd wedi dweud bod y Brifysgol am godi ffi o £18,000 y flwyddyn er mwyn cynnig addysg o’r safon uchaf i israddedigion talentog.

Rhyw 20 o’r 91 o ddarpar fyfyrwyr sydd wedi eu derbyn i astudio yn y brifysgol sy’n mynychu ysgolion cyffredin.

Ond mae’r athronydd AC Grayling, pennaeth y brifysgol, wedi ceisio tawelu pryderon mai lle i’r breintiedig o’r ysgolion preifat fydd y sefydliad newydd.

“Gellir disgrifio unrhyw beth sy’ o ansawdd uchel, ac yn gofyn am lawer o ymroddiad, fel elît,” meddai.

“Yn bersonol does gen i ddim problem gyda’r gair ‘elît’.

“Mi fyddech yn dymuno i’ch llawfeddyg neu beilot eich awyren fod wedi derbyn ei addysg mewn sefydliad elît. Nid yw elît yn golygu ecsgliwsif.”

Yn ôl Grayling mae saith o ddarpar fyfyrwyr wedi cael cynnig ysgoloriaethau sy’n golygu na fyddan nhw’n talu unrhyw ffioedd, a 37 wedi cael cynnig llefydd ar delerau ffafriol sy’n golygu talu ffi o £7,200 y flwyddyn.

Bydd y brifysgol newydd yn cychwyn trwy ddysgu cyrsiau is-radd ym mhynciau Economeg, Saesneg, Hanes, Y Gyfraith ac Athroniaeth.