Er bod troseddu wedi gostwng ar gyfartaledd drwy Gymru, bu cynnydd o 2.3% yn y gogledd, yn ôl y ffigyrau ar gyfer 2011.

Bu gostyngiad o 11% yn ardal Heddlu Gwent, gyda dwyn o dai i lawr 28%.

Gwelwyd llai o ostyngiad yn ardal Heddlu’r De, sef 6.6%, a lleihad o 2.6% o fewn ffiniau Dyfed-Powys.

Drwyddi draw yng Nghymru a Lloegr roedd trosedd wedi lleihau 3% y llynedd.