Fe gafwyd cynydd o 8% mewn achosion o fygio a dwyn ar y stryd y llynedd, er gwaetha’r gostyngiad cyffredinol mewn troseddu, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Aeth achosion o fwrgleriaeth i fyny 1%, tra bod dwyn ceir wedi codi 2% yn 2011.

Mae’r ffigyrau, gan yr Arolwg Troseddau dros Gymru a Lloegr, yn dweud nad oedd “unrhyw newid sylweddol mewn trosedd yn gyffredinol,” gyda’r heddlu yn cofnodi 3% yn llai o droseddau.

Mae’r Dirprwy Brif Gwnstabl Douglas Paxton, o Asiantaeth y Prif Swyddogion Heddlu, wedi canmol yr heddlu am y “gostyngiad mewn troseddau a’r cynydd yn hyder y cyhoedd… law yn llaw â’r ymdrechion i arbed arian sylweddol.”

Mae achosion o drais yn erbyn y person wedi gostwng 7%, bwrgleriaeth o gartrefi wedi gostwng 3%, a rhan fwya’ categoriau eraill hefyd yn dangos gostyngiad yn y troseddau a gofnodwyd gan y lluoedd heddlu ar draws Prydain.

Dywedodd Douglas Paxton fod y “gostyngiad mewn difrod troseddol, yn ôl ystadegau’r heddlu a’r arolwg troseddau, yn arbennig o dda.”

Ond roedd yn rhybuddio fod cynnydd wedi bod yn  nifer y troseddau “oportwnistaidd” a bod yr heddlu yn ceisio gweithio gyda chymunedau lleol i leihau’r risg o hyn yn digwydd.

Mae’r ffigyrau yn amcangyfrif bod cyfanswm y troseddau ar draws Prydain wedi disgyn o 4,159,553 yn 2010, i 4,043,339 yn 2011.