Mae cwmni Peacocks am gael gwared â 147 o swyddi mewn tri o’u canolfannau dosbarthu yng Nghymoedd y de.

Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn ymgynghori gyda’r staff ar hyn o bryd ond yn gobeithio y bydd y ffigwr terfynol yn llawer llai.

Mae Peacocks yn cyflogi mwy na 600 o bobl yn eu canolfannau dosbarthu yn Nantgarw, Pentre a Merthyr Tudful.

Mae Edinburgh Woollen Mill bellach yn berchen Peacocks ar ôl i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Chwefror. Cafodd 3,100 o staff eu diswyddo bryd hynny pan gafodd 224 o siopau eu cau.