Bu’n rhaid atal awyrennau yn hedfan i mewn ac allan o faes awyr Gatwick heddiw ar ôl i awyren orfod lanio ar frys yn dilyn adroddiadau bod tân ar ei bwrdd.

Dywedodd Virgin Atlantic bod yn rhaid i’r awyren Airbus A330 oedd ar ei ffordd i Orlando yn Fflorida orfod troi’n ôl fel mesur diogelwch oherwydd “problem dechnegol.”

Cafodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gorllewin Sussex eu galw am 12.21pm heddiw yn dilyn adroddiadau bod “tân bychan ar fwrdd awyren” oedd wedi gorfod glanio ar frys.

Cafodd chwe injan dân eu hanfon i’r maes awyr.

Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Gatwick bod yr awyren wedi glanio’n ddiogel a bod y teithwyr i gyd wedi gadael yr awyren yn ddiogel. Yn ôl Virgin Atlantic cafodd pedwar o bobl “fân anafiadau” yn y digwyddiad.

Roedd yr awyren wedi gadael Gatwick am 10.48am ond wedi gorfod troi’n ôl am 12.30pm oherwydd problem dechnegol.

Roedd 13 o griw a 299 o deithwyr ar fwrdd yr awyren.

Cafodd y gwaharddiad ei godi am 2pm ond mae ’na oedi i nifer o deithiau o hyd oherwydd y digwyddiad gyda rhai awyrennau yn gorfod glanio ym maes awyr Stansted ac Essex yn lle.