Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cinio mawr i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines ac yn annog clybiau rygbi Cymru i drefnu eu ciniawau hwythau ar 3 Mehefin.
Mae capten rygbi Cymru, Sam Warburton, yn edrych ymlaen at yr achlysur.
“Mae gennym sawl achos dathlu yng Nghymru eleni – mae Cymru wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn ac mae dathliadau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines ar y gorwel”, meddai’r blaenasgellwr.
Mae Cinio Mawr y Jiwbilî yn rhan o gyfres o giniawau swyddogol sy’n cael eu noddi gan Dduges Cernyw a Chronfa’r Loteri Fawr.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gronfa yng Nghymru fod manteision i’r dathliadau.
“Mae’r Cinio Mawr wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran pwysleisio manteision bod yn rhan o gymuned ac mae pobl Cymru wedi gwneud ymdrech fawr i gefnogi’r fenter ar gyfer y Jiwbilî Ddiemwnt eleni”, meddai John Rose.
Yr Eden Project yng Nghernyw sy’n arwain trefniadau’r Cinio Mawr, a dywedodd pennaeth y corff, Tim Smit KBE
“Mae gan Brydain draddodiad hir o drefnu partïon stryd ar gyfer dathliadau Brenhinol ac rydym yn siŵr bydd miliynau o bobl yn torri bara gyda’i gilydd ar 3 Mehefin, gan sicrhau mai hwn fydd y Cinio Mawr gorau erioed.”