Brendan Rodgers
Mae chwaraewr canol cae Yr Elyrch, Leon Britton â’r gôl geidwad Michael Vorm, yn erfyn ar Abertawe i ennill eu gêm nesaf yn erbyn Blackburn Rovers.

Collodd Abertawe yn erbyn QPR nos Fercher, gan barhau eu rhediad gwael yn yr Uwch Gynghrair.

Fe fydd Abertawe yn croesawu Blackburn i Stadiwm y Liberty yfory.

Mae tîm Brendan Rodgers wedi ennill clod am eu ffordd o chwarae a’u llwyddiant yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae’r tîm bellach ar eu rhediad gwaethaf ers cael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair.

‘‘Roeddwn yn hyderus am ganlyniad yn erbyn QPR, ond dyna gêm waethaf y tymor cyn belled,” meddai Michael Vorm.

“Os ydym ni’n chwarae fel yna dydd Sadwrn, byddwn ni wedi colli pum gêm yn olynol, sy’n chwerthinllyd a byddaf yn siomedig iawn.”

Mae Abertawe wedi colli i Tottenham, Everton, Newcastle a QPR, gan sgorio un gôl yn unig.  Ond mae Leon Britton yn gweld cyfle euraidd i ymateb i’w canlyniadau gwael ac i gipio pwyntiau oddi ar Blackburn.

‘‘Mae angen perfformiad da, a cheisio sicrhau gêm gyfartal, neu ennill,’’ meddai Britton.

Yn eu tair gêm nesaf, bydd yr Elyrch yn wynebu Blackburn, Bolton a Wolves sydd i gyd ar waelod yr Uwch Gyngrhair.

Os ydyn nhw’n gwneud cawlach go iawn ohono fe allen nhw wynebu dychwelyd i’r Bencampwriaeth y flwyddyn nesaf.

‘‘Mae gennym ni bum gêm yn weddill, ac mae’n rhaid i ni orffen yn gadarn,’’ ychwanegodd Britton.