Bydd S4C yn dangos gemau rygbi colegau Cymru yn fyw ar eu gwefan dros yr wythnosau nesaf, a bydd pecyn uchafbwyntiau arbennig yn cael ei ddarlledu ar y brif sianel.

Bydd cyfle i weld pwy yw’r George North neu’r Scott Williams nesaf wrth wylio doniau gorau rygbi dan 18 Cymru yn cystadlu am deitl Pencampwriaeth y Colegau.

Coleg Morgannwg fydd yn herio Coleg Penybont yn y gêm gyntaf fydd yn cael ei gweddarlledu’n fyw ar S4C.co.uk brynhawn Mercher, 18 Ebrill.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau arbennig ar S4C (nos Fawrth, 24 Ebrill) yn crynhoi gemau’r colegau a chyflwr rygbi dan 18 yng Nghymru. Bydd cyfle hefyd i gael cipolwg ar sut mae rygbi ar y lefel yma’n effeithio ar ddatblygiad y gêm yn gyffredinol.

“Dyma’r tro cyntaf i S4C ddarlledu gemau rygbi yn ecsgliwsif ar y we ac mae’n ddatblygiad hynod o gyffrous,” meddai Russell Isaac, cynhyrchydd y gyfres.

“Bydd y gyfres yn rhoi sylw i ymgyrch a pholisïau Undeb Rygbi Cymru o feithrin talent ifanc a dod o hyd i chwaraewyr dawnus y tu allan i system Academi’r rhanbarthau.

“Dyma sut y datblygodd yr asgellwr campus, George North, ei dalentau ef.  Bwriad yr Undeb yw denu mwy o fechgyn ifanc i’r gêm a’u datblygu er mwyn creu mwy o gystadleuaeth a mwy o ddewis.”

Drwy gydol y tymor, mae saith coleg wedi bod yn brwydro am y Bencampwriaeth. Ar ddechrau mis Mai bydd y ddau dîm ar frig y Gynghrair yn cystadlu yn y rownd derfynol a bydd un ohonynt yn ennill y tlws.

“Mae rygbi’r colegau yn denu llawer o gefnogwyr ac yn awr bydd llwyfan arall i ddoniau a thalent y gwŷr ifanc sy’n cynrychioli’r colegau. Pwy a ŵyr, efallai mai rhai ohonyn nhw fydd yn disgleirio ar y llwyfan rhyngwladol yn y blynyddoedd sydd i ddod? Yn sicr, dyna obaith yr Undeb. Mae’n gam pwysig yn natblygiad y gêm yma yng Nghymru,” meddai Russell Isaac.