Lleucu Siencyn
Mae 21 o awduron, yn cynnwys wyth awdur newydd, wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2012.
Mae’r ysgoloriaethau’n werth cyfanswm o £89,000, a byddan nhw’n galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol.
Yn ogystal â chefnogi awduron newydd, cafodd ysgoloriaethau hefyd eu dyfarnu i nifer o awduron cyhoeddedig. Bydd awduron 2012 yn creu ffuglen, straeon byrion, barddoniaeth, cofiant a hunangofiant, a ffuglen i blant.
Dywedodd Llenyddiaeth Cymru fod y Panel Ysgoloriaethau’n falch iawn i gefnogi wyth o awduron newydd sydd heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn.
Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn caniatáu i Jason Walford Davies gymryd peth amser i ffwrdd o’i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar ffuglen newydd yn y Gymraeg. Bydd Lleucu Roberts yn canolbwyntio ar gyfres o fonologau am ferched. Bwriada Jane Edwards ysgrifennu nofel newydd Lisi Jones Jasinski, tra bydd Geraint Lewis yn datblygu casgliad o straeon byrion.
Bydd yr awdur a’r newyddiadurwr Hefin Wyn yn ysgrifennu cofiant y canwr poblogaidd Meic Stevens.
Saesneg
Bydd pedwar awdur Cymraeg yn troi at ddatblygu ffuglen Saesneg. Bydd Tony Bianchi’n gweithio ar ei nofel newydd, tra bydd Owen Martell yn ysgrifennu stori fer hir. Bydd Angela Roberts, awdur cyfres lwyddiannus Jini Mê, yn ysgrifennu nofel i blant. Bwriada Chris Cope ysgrifennu ei hunangofiant, am ei brofiad o fudo o’r Unol Daleithiau i Gymru, er mwyn cyflawni ei uchelgais o ddysgu’r iaith Gymraeg a byw’r freuddwyd.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Paul Henry, Rhian Edwards, Stephanie Burgis, Caroline John (C M John), Will Slocombe a Bruce Paley.
‘Eithriadol’
Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Roedd rhai [ceisiadau] gwirioneddol eithriadol. Teimlai aelodau’r Panel fod un neu ddau o’r rhain yn ddarpar deitlau Llyfr y Flwyddyn, sy’n arwydd bod rhai campweithiau llenyddol ar y gweill yr oedd y panel ysgoloriaethau’n hapus iawn eu bod yn gallu argymell rhoi cymorth iddynt.
“Gobeithio y bydd ysgoloriaethau eleni’n helpu rhagor o’n hawduron i ddal ati i ddyfeisio, ysgrifennu a chyhoeddi eu gwahanol chwedlau a’u storïau.”
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Ers 2004 rydym wedi dyfarnu dros £800,000 ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, yn galluogi 197 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn nifer o genres gwahanol. Mae cefnogi’r awdur yn ei yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru.”