Connie Fisher Llun: Gwefan Connie Fisher
Mae’r gantores Gymraeg Connie Fisher yn dweud ei bod wedi gorfod ailddysgu canu er mwyn ailafael yn ei gyrfa.
Mae wedi dechrau perfformio’r brif ran mewn sioe gerddorol newydd ar ôl clywed na fyddai fyth yn gallu canu eto.
“Fe es i drwy argyfwng identiti,” meddai’r gantores o Sir Benfro, sydd newydd ddechrau ar daith gyda miwsical Leonard Bernstein, Wonderful Town. “Roedd fel colli rhan ohona’ i.”
Fe ddywedodd wrth y rhaglen radio Women’s Hour fel yr oedd doctoriaid wedi sylweddoli ei bod yn diodde’ o aflwydd ar y cordiau llais a bod un arbenigydd wedi dweud wrthi fod ei gyrfa ar ben.
Llawdriniaeth
Fe gafodd lawdriniaeth ac wedyn fisoedd o ailhyfforddi yn Boston, yn yr Unol Daleithiau, cyn ailddechrau perfformio’n gyhoeddus yr wythnos ddiwetha’.
“Dw i ddim bellach yn gallu codi yn y bore a tharo’r ‘C’ uchaf,” meddai Connie Fisher. “Dw i wedi gorfod ailddysgu defnyddio fy llais.”
Mae’r llais hwnnw bellach yn ddyfnach, ond yn gweddu i gerddoriaeth jazzaidd Bernstein – mae’r sioe yn y Lowry Manceinion ar hyn o bryd cyn mynd ar daith sy’n gorffen yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.