Mae dyn 51 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio bachgen pedair oed y cafwyd hyd iddo yn y stryd gydag anafiadau ar ôl cael ei drywannu.

Cafodd Steve Frogg, o Stryd Frederick, Mansfield yn Sir Nottingham ei gadw yn y ddalfa ar ôl gwrandawiad byr yn llys ynadon y dref.

Cafwyd hyd i’r bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn Mansfield bnawn dydd Llun gydag anafiadau difrifol.

Mae mewn cyflwr sefydlog mewn canolfan feddygol yn Nottingham.

Fe fydd Frogg yn ymddangos gerbron Llys y Goron Nottingham ar Ebrill 25.