Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi dweud bod angen i’r Asiantaeth Ffiniau fod yn fwy agored gyda nhw ac yn llai amddiffynnol.

Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref wedi beirniadu’r asiantaeth am ddarparu ffigurau aneglur nad oedd yn “magu hygrededd yn y corff”.

Yr Asiantaeth Ffiniau sy’n cadw llygad ar y mynd a dod ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Prydain, ac adroddiad y Pwyllgor Dethol yw’r trydydd adroddiad damniol ar waith yr asiantaeth eleni.

“Mae peryg bod dryswch y ffigurau yn  mynd i godi amheuaeth fod yr asiantaeth yn ceisio camarwain y Senedd a’r cyhoedd,” medd adroddiad yr Aelodau Seneddol.

Yn ôl yr adroddiad roedd dros 200 o garcharorion o dramor a gafodd eu rhyddhau yn 2010/11 yn dal yn y wlad ym mis Tachwedd y llynedd. Roedd yr asiantaeth yn aneglur ynghylch hawliau’r troseddwyr o dramor a’r hyn oedd yn atal troseddwyr rhag cael eu halltudio, medd y pwyllgor.

Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo Damian Green fod yr asiantaeth ffiniau wedi gwella ers y stad o “anhrefn lwyr” oedd yn bodoli pan ddaeth y Llywodraeth Geidwadol i rym ddwy flynedd yn ôl.