Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi dweud nad oes modd gwerthfawrogi stori’r Pasg heb gredu bod Iesu Grist wedi ei atgyfodi gan Dduw.

Yn ystod ei bregeth Sul y Pasg olaf yn arweinydd Eglwys Lloegr, dywedodd Dr Rowan Williams nad budd Cristnogaeth i’r ddynoliaeth yw’r prawf pennaf o allu Duw.

A ddigwyddodd yr atgyfodiad ai peidio yw’r cwestiwn allweddol, meddai wrth gynulleidfa yn Eglwys Gadeiriol Caergaint.

“Mae’r Pasg yn gwneud honiad, nid yn unig am weithgaredd dynol a allai fod o fudd, ond am ddigwyddiad hanesyddol a’i gysylltiad â gweithred gan Dduw,” meddai.

“Yn syml iawn, rydyn ni’n credu fod Duw wedi atgyfodi Iesu.”

Dywedodd fod unrhyw ymdriniaeth o arwyddocâd yr atgyfodiad oedd yn anwybyddu hynny yn ei gamddehongli.

“Nid y peth pwysig yw bod Iesu wedi goroesi marwolaeth, na chwaith hanes hyfryd y feddrod wag, na’r neges fod Iesu yn byw o hyd.

“Y peth pwysicaf yw bod Duw wedi gwneud rhywbeth.”

Fe fydd Rowan William yn ymddiswyddo cyn diwedd y flwyddyn er mwyn cymryd swydd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn ystod y bregeth galwodd am sicrhau nad yw addysg grefyddol yn cael ei hisraddio mewn ysgolion uwchradd

Dywedodd nad ydi pobol ifanc yn elyniaethus tuag at grefydd a bod nifer yn ei gymryd o ddifrif.

“Mae pobol ifanc yn ystadegol yn annhebygol iawn o fynychu capel neu eglwys, ond dydyn nhw ddim yn elyniaethus tuag at grefydd,” meddai’r Cymro.

“Maen nhw yn synhwyro fod rhywbeth yma sydd i’w gymryd o ddifrif – pan mae cyfle iddyn nhw ei drafod.

“Dyma’r amser gwaethaf posib i israddio addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd.”