Mae undeb Unite wedi dweud heddiw na fydd streic tanwydd dros y Pasg – er gwaetha’r bygythiadau sydd wedi gyrru modurwyr at y pympiau petrol.
Dywedodd yr undeb sy’n cynrychioli 2,000 o yrwyr tanceri tanwydd eu bod nhw eisiau canolbwyntio ar drafodaethau yn hytrach na streicio.
Ond mae’r undeb wedi dweud eu bod nhw’n cadw’r hawl i streicio os yw’r trafodaethau, sydd i fod i ddechrau’r wythnos nesaf, yn methu.
Yn y cyfamser, mae Asiantaeth Gwerthwyr Petrol Prydain wedi dweud bod gwerthiant petrol wedi cynyddu dros 170% ddoe, tra bod gwerthiant disel i fyny bron i 80%.
Mae Unite, a’r saith cwmni dosbarthu sydd ynghlwm â’r ddadl, mewn cysylltiad â’r gwasanaeth cymodi Acas erbyn hyn, ond ni fydd y trafodaethau’n dechrau nes dydd Llun.
Mae’r undeb yn dweud eu bod nhw wedi bod yn ceisio sefydlu isafswm safonau yn y diwydiant dosbarthu olew, ac atal yr “ras i’r gwaelod.”
Mae swyddogion wedi bod yn galw am isafswm safonau ar iechyd a diogelwch, hyfforddiant, pensiynau, cyfraddau cyflog, oriau a gwyliau, hawliau cyfartal, a phrosesau disgyblu.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cymorthol yr undeb, Diana Holland, na fydden nhw’n galw streic dros y Pasg, er mwyn “canolbwyntio ar drafodaethau trwy Acas. Ond rydyn ni’n cadw’r hawl i streicio ar ôl y Pasg os yw’r trafodaethau yn torri lawr.”