Mae cyngor cyllido addysg uwch Cymru wedi datgelu y bydd Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn gorfod ymdopi ar 20% yn llai o gyllid y flwyddyn nesaf.
Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion Cymru yn gweld cynnydd bychan yn eu cyllid, ond bydd cyllid Prifysgol Glyndŵr yn crebachu 20.3%.
Dywedodd y cyngor cyllido bod y penderfyniad o ganlyniad i “benderfyniad y brifysgol honno ynghylch lefel eu ffi dysgu”.
Mae Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr y brifysgol, Athro Michael Scott, wedi datgan ei siom ynghylch y cyhoeddiad, ond wedi dweud nad oedd yn annisgwyl.
“Wrth osod lefelau ffioedd i fyfyrwyr ar gyfer 2012/13 fe ddewisom yn fwriadol ffioedd a fyddai’n lleihau baich y ddyled ar ein myfyrwyr a Llywodraeth Cymru, tra ar yr un pryd yn cwrdd ag amcanion datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru.,” meddai.
“Mae’n drueni felly fod y Brifysgol yn cael ei rhoi dan anfantais o’i gymharu â phrifysgolion eraill am ddilyn polisi’r llywodraeth.
“Ni yw’r brifysgol sy’n tyfu cyflymaf yng Nghymru, ac mae Prifysgol Glyndŵr wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatblygu incwm o ystod eang o feysydd, ac yn hyderus y bydd y tueddiad yma yn ein galluogi i wneud iawn am y gostyngiad yma mewn nawdd ariannol yn gyflym”.
Bydd cyllid Coleg Sir Gâr, sy’n darparu addysg bellach, yn disgyn o 27%.
Mae’r corff cyllido hefyd yn amcangyfrif y bydd yn talu £34 miliwn mewn taliadau ffioedd i sefydliadau addysg uwch y tu hwnt i Gymru, yn bennaf yn Lloegr, ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o Gymru.
Newid canran cyllidebau’r prifysgolion
Morgannwg: 0.8%
Aberystwyth: 5.2%
Bangor: 6.2%
Caerdydd: 0.1%
Y Drindod Dewi Sant: 0.4%
Abertawe: 3.6%
Metropolitan Caerdydd: 4.5%
Prifysgol Cymru Casnewydd: 0.7%
Glyndŵr: -20.3%
Metropolitan Abertawe: – 0.1%
Prifysgol Agored Cymru: 19.2%
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: 0.6%
Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr: 17%
Coleg Sir Gâr: -27%
Coleg Llandrillo Cymru: 9%
Coleg Castell-nedd Port Talbot: 3%
Coleg Gwyr Abertawe: 43%