Fe fuodd y gwasanaethau brys yn brwydro tân 10,000 metr sgwâr ar gaeau uwchlaw Waunfawr, ger Caernarfon, neithiwr.
Cafodd pedwar injan dân eu galw am 8.34pm i ddelio â’r tân enfawr ar dir ffermwr lleol, oedd wedi bod yn llosgi deunydd ar ei fferm.
Roedd y tân ar Gefn Du, rhwng y pentref a thref Llanberis.
Cafodd criwiau tân o Gaernarfon, Bangor, Porthaethwy a Phorthmadog eu galw yno.
Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth tân ac achub Gogledd Cymru wrth Golwg 360 eu bod wedi bod yn cydweithio â’r ffermwr er mwyn ceisio diffodd y tân, a’u bod wedi defnyddio 18 curwr tân fel rhan o’r gwaith.
Cafodd yr heddlu hefyd eu galw i helpu wrth reoli traffig ar hyd un lôn oedd wedi ei heffeithio’n arbennig gan fwg y tân.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân ac achub wrth Golwg 360 eu bod wedi ail-ymweld â’r safle am 6am y bore ’ma a bod y tân i’w weld wedi diffodd.