Wylfa
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi dweud fod eisoes ddiddordeb gan gwmnïoedd eraill i barhau â’r gwaith o adeiladu Wylfa B.

Datgelwyd ddoe bod cwmnïoedd RWE ac E.ON wedi penderfynu peidio parhau â’u cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar Ynys Môn.

Mae’r cwmnïoedd yn edrych am berchennog newydd ar gyfer Horizon Nuclear Power, y cwmni sy’n datblygu’r safle.

Dywedodd Volker Beckers, prif weithredwr RWE Npower, fod Cymru yn parhau’n un o’r llefydd “mwyaf atyniadol” i leoli gorsafoedd niwclear yn Ewrop.

“Byddai buddsoddwr arall yn gallu neidio’r ciw. Fe fyddwn nhw’n elwa o’r gwaith gwych yr ydym ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Carwyn Jones bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn un cais gan gwmni oedd â diddordeb yn y datblygiad yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad.

Roedd Carwyn Jones hefyd wedi trafod â’r ysgrifennydd ynni Ed Davey ynglŷn â sut orau i ymateb i benderfyniad y cwmnïoedd Almaenaidd.

Cael Wylfa i’w wely

“Rydyn ni’n ymwybodol fod llawer iawn o ddiddordeb yn safle Wylfa B,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio denu buddsoddiad i Ynys Môn er mwyn sicrhau bod yr adweithydd yn cael ei adeiladu a 600 o swyddi yn cael eu cadw a swyddi eraill yn cael eu creu.

“Fe fyddwn ni’n gweithio yn hynod o galed ar y cyd â Llywodraeth San Steffan, sydd o’r un farn â ni am hyn, er mwyn sicrhau bod yr adweithydd yn cael ei adeiladu.

“Mae’n amhosib gwybod ar hyn o bryd i le y bydd hyn yn arwain.

“Dydw i ddim am i bobol godi eu gobeithion yn ormodol ond mae o yn galonogol fod ddiddordeb helaeth mewn buddsoddi yn Wylfa B.

“Ond mae yna ffordd beth i fynd eto.”