Ysgol Everyday Champions
Mae eglwys efengylaidd sy’n rhoi pwyslais ar hanes y cread wedi gwneud cais i agor ysgol.
Dywedodd Eglwys Everyday Champions, yn Newark, Swydd Nottingham, y bydd yr ysgol yn dysgu “theori” esblygiad.
Mae gan rieni, elusennau, prifysgolion, busnesau a grwpiau addysgiadol bellach yr hawl i sefydlu eu hysgolion eu hunain yn Lloegr.
Nod yr eglwys yw agor yr ysgol newydd ym mis Medi’r flwyddyn nesaf ac maen nhw’n dweud nad oes yna ddigon o lefydd gwag mewn ysgolion uwchradd i gwrdd â’r galw yn lleol.
“Fe fydd y cread yn rhan o wead Academi Everyday Champions ond ni fydd yn cael ei ddysgu yn y gwersi gwyddoniaeth,” meddai gweinidog yr eglwys, Gareth Morgan, wrth bapur newydd yr Independent.
“Fe fydd esblygiad yn cael ei ddysgu fel pob theori arall.”
Mae esblygiad yn rhan o’r maes llafur cenedlaethol ond mae’r ysgolion newydd yn rhydd i’w anwybyddu.
Yn ôl gwefan yr ysgol bydd lle ar gyfer 625 o ddisgyblion ac fe fyddan nhw’n “croesawu plant o bob ffydd neu ddim”.
Serch hynny “fe fydd gwerthoedd y ffydd Gristnogol wrth wraidd athroniaeth yr ysgol”.
“Rydyn ni’n credu yng Ngair Duw. Mae o’n gywir, yn awdurdodol ac yn berthnasol i’n bywydau bob dydd.”