Rebekah Brooks gyda Rupert Murdoch
Mae cyn brif weithredwr News International, Rebekah Brooks wedi cael ei holi gan yr heddlu heddiw ynglŷn â thaliadau i swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Y gred yw ei bod hi wedi cael ei holi ynglŷn â thystiolaeth gafodd ei roi i’r heddlu gan Bwyllgor Safonnau a Rheolaeth News International.
Cafodd Rebekah Brooks, 41, ei harestio y tro cyntaf fel rhan o Operation Weeting ym mis Gorffennaf y llynedd, ar amheuaeth o hacio ffonau a llygredd a hynny ddyddiau’n unig ar ôl iddi roi’r gorau i’w swydd yn News International.
Cafodd ei harestio unwaith eto wythnos ddiwethaf ynghyd â’i gŵr Charlie ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Prynhawn ma, cafodd Rebekah Brooks ei rhyddhau ar fechniaeth unwaith eto a bydd yn cael ei holi gan yr heddlu ym mis Mai.