George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor gyhoeddi yn ei Gyllideb yfory gynlluniau i roi rhagor o fanylion i bobl ynglŷn â faint o dreth sy’n cael ei chymryd o’u cyflog a sut mae’n cael ei gwario.

Mae  George Osborne yn bwriadu rhoi adroddiad personol i bob trethdalwr o 2014-15.

Fel enghraifft, mae adroddiad yn dangos bod rhywun sy’n ennill cyflog o £25,200 y flwyddyn yn talu £5,702.12 o’u hincwm mewn treth i’r Trysorlys.